PGCE Primary with QTS (3-11) (Welsh Medium) (TAR) / TAR Cynradd gyda SAC (3-11) (Cyfrwng Cymraeg)
Entry requirements
- O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig ag addysg gynradd.
- Gradd C/gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg.
- Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd.
- TGAU Gradd C/Gradd 4 mewn Gwyddoniaeth.
- Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.
- Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi.
Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).
Gwneud Cais
Er mwyn mynd i ddysgu, mae angen ichi gwblhau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) mewn prifysgol, ysgol neu goleg yn y DU. Dylai ymgeiswyr nodi bod y broses ymgeisio ar gyfer y rhaglenni TAR yn wahanol i drefn ymgeisio ôl-radd safonol Prifysgol Bangor.
Bydd angen i ymgeiswyr wneud cais drwy system Israddedig UCAS. Ewch i wefan UCAS am fwy o wybodaeth.
Months of entry
September
Course content
This course is also offered through the medium of English.
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cael ei chynnig drwy Gyfrwng Saesneg.
Bwriad y rhaglen TAR Cynradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu’n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant drwy'r Gam Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol. Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* ymhellach i ffwrdd i fynd i'r proffesiwn dysgu.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan Gorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi'u hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd Athrawon Cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu o fewn Cymru a thu hwnt iddi.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Fframwaith / Cynnwys y Cwrs (sut y caiff y cwrs ei ddysgu a'i asesu, rhestr o fodiwlau ac/neu ddisgrifiadau o fodiwlau).
- Astudiaethau Proffesiynol, Pedagogaidd a Chraidd mewn Addysg Gynradd
- Astudiaethau Pwnc mewn Addysg Gynradd (yn cynnwys ymchwil weithredol agos at ymarfer)
- Profiad Ysgol
Fees and funding
Cymhellion Hyfforddi i Athrawon
Atodiad sylfaenol
Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yn unig (arbenigedd pwnc gradd er mwyn codi safonau mewn rhifedd a llythrennedd a chefnogi'r gwyddorau)
Gradd 1af a/neu ddoethuriaeth/gradd Meistr - £3,000, Manylion llawn yma.
Gweler hefyd: Cyllid Myfyrwyr Cymru
Qualification, course duration and attendance options
- PGCE(QTS)
- full time12 months
- Campus-based learningis available for this qualification
Course contact details
- Name
- Postgraduate Admissions
- postgraduate@bangor.ac.uk
- Phone
- 01248 383717