Taught course

PGCE Secondary - Mathematics (Welsh Medium) / TAR Uwchradd - Mathemateg (Cyfrwng Cymraeg)

Institution
Bangor University · School of Education and Human Development
Qualifications
PGCE(QTS)

Entry requirements

  • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig â pwnc astudio.
  • Gradd C/gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg.
  • Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd.
  • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.
  • Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi.

Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5)).

Gwneud Cais

Er mwyn mynd i ddysgu, mae angen ichi gwblhau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) mewn prifysgol, ysgol neu goleg yn y DU. Dylai ymgeiswyr nodi bod y broses ymgeisio ar gyfer y rhaglenni TAR yn wahanol i drefn ymgeisio ôl-radd safonol Prifysgol Bangor.

Bydd angen i ymgeiswyr wneud cais drwy system Israddedig UCAS. Ewch i wefan UCAS am fwy o wybodaeth.

Months of entry

September

Course content

This course is also offered through the medium of English.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cael ei chynnig drwy Gyfrwng Saesneg.

Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol. Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.

*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.

Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.

Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.

Cyfunwch y pwnc hwn gyda Gweithgareddau Awyr Agored

Mae Bangor yn lle gwych ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â’n cysylltiadau â darparwyr addysg awyr agored, yn rhoi cyfle arbennig i gyfuno’r pwnc hwn gyda chwaraeon awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, yna gwnewch gais am: TAR Uwchradd - Mathemateg (Cyfrwng Cymraeg) 3F5C.

Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?

Anogir AC i fabwysiadu addysgeg gydweithredol, gan alluogi dysgwyr i ddysgu mathemateg yn rhyngweithiol ac yn ddeialogaidd yn ogystal â deall pwysigrwydd canolog cyfarwyddyd uniongyrchol. Byddant yn astudio sut mae damcaniaethau dysgu pwysig yn dylanwadu ar strategaethau addysgu; er enghraifft, bydd dealltwriaeth AC o ddamcaniaeth sgema Piaget yn llywio cynllunio tasgau sy'n hyrwyddo dealltwriaeth hirdymor yn hytrach na dysgu ar y cof. Yn ogystal, trafodir pwysigrwydd cyd-destun, gan alluogi AC i ddeall cysyniad rhifedd a chysylltiadau trawsgwricwlaidd gyda phynciau uwchradd eraill. Caiff datblygiadau cyfredol mewn addysgu a dysgu mathemateg (ee meistrolaeth ) eu dadansoddi'n feirniadol, gan sicrhau bod ymarfer yn gyfoes a pherthnasol.

Fees and funding

Cymhellion Hyfforddi i Athrawon

Gallai graddedigion sydd â graddau penodol fod yn gymwys am gymhellion o hyd at £20,000 os ydynt am i hyfforddi i fod yn athro yng Nghymru.

Y pynciau blaenoriaeth yw:

  • Ffiseg
  • Cemeg
  • Mathemateg
  • Cymraeg
  • Cyfrifiadureg
  • Ieithoedd Tramor Modern

Manylion llawn yma.

Gweler hefyd:

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Qualification, course duration and attendance options

  • PGCE(QTS)
    full time
    12 months
    • Campus-based learningis available for this qualification

Course contact details

Name
Postgraduate Admissions
Email
postgraduate@bangor.ac.uk
Phone
01248 383717