PGCE Secondary - Religious Education (Welsh Medium) / TAR Uwchradd - Addysg Grefyddol (Cyfrwng Cymraeg)
Entry requirements
Ar gyfer mynediad yn 2020:
- O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig â pwnc astudio.
- Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg.
- Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd.
- Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.
- Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi.
Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn. Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5)).
Gwneud Cais
Er mwyn mynd i ddysgu, mae angen ichi gwblhau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) mewn prifysgol, ysgol neu goleg yn y DU. Dylai ymgeiswyr nodi bod y broses ymgeisio ar gyfer y rhaglenni TAR yn wahanol i drefn ymgeisio ôl-radd safonol Prifysgol Bangor.
Bydd angen i ymgeiswyr wneud cais drwy system Israddedig UCAS. Ewch i wefan UCAS am fwy o wybodaeth.
Months of entry
September
Course content
This course is also offered through the medium of English.
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cael ei chynnig drwy Gyfrwng Saesneg.
Ar ôl cwblhau'r TAR yn llwyddiannus, bydd AC yn dod yn ymarferwyr effeithiol, brwdfrydig ac adfyfyriol Addysg Grefyddol. Y prif bwyslais fydd hyrwyddo dealltwriaeth glir o'r hyn a olygir gan Addysg Grefyddol ragorol, a datblygu sgiliau hyfforddeion wrth gymhwyso'r nodweddion hyn i addysgu dosbarth.
Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol. Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.
Cyfunwch y pwnc hwn gyda Gweithgareddau Awyr Agored
Mae Bangor yn lle gwych ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â’n cysylltiadau â darparwyr addysg awyr agored, yn rhoi cyfle arbennig i gyfuno’r pwnc hwn gyda chwaraeon awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, yna gwnewch gais am: TAR Uwchradd - Addysg Grefyddol (Cyfrwng Cymraeg) 3F5T.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd AC yn deall ac yn cymhwyso nodau ac amcanion cyfredol Addysg Grefyddol gan alluogi 'disgyblion i archwilio ystod o gwestiynau athronyddol, diwinyddol, moesegol ac ysbrydol mewn modd adfyfyriol, dadansoddol, cytbwys sy'n ysgogi holi a dadlau. Mae hefyd yn canolbwyntio ar ddeall ymchwil dynoliaeth am ystyr, agweddau cadarnhaol dealltwriaeth aml-ffydd / amlddiwylliannol a dealltwriaeth y disgyblion eu hunain o fywyd a chrefydd a'u hymatebion iddynt.
Bydd AC yn archwilio ystod eang o faterion a phynciau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu Addysg Grefyddol yn effeithiol, er enghraifft: cyd-destun; addysgeg gyfredol; cynllunio gwersi effeithiol; asesu a chyrhaeddiad; cynhwysiad; rhifedd, llythrennedd a chymhwysedd digidol; sgiliau meddwl; creadigrwydd; addysg am yr Holocost; amlsynhwyraidd; safbwyntiau aml-ffydd.
Bydd yr AC yn datblygu a chymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion crefyddol, diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol ac ieithyddol Cymru. Mae astudio'r Cwricwlwm Cymreig trwy lens Addysg Grefyddol yn helpu disgyblion i ddeall a dathlu'r profiad o fyw a dysgu yng Nghymru, deall eu ymdeimlad eu hunain o Gymreictod a theimlo perthynas gadarnach â'u cymuned leol. Mae hefyd yn meithrin dealltwriaeth o Gymru sy'n edrych allan ac yn rhyngwladol, gan hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang a phryder am ddatblygiad cynaliadwy.
Bydd hyfforddeion a thiwtoriaid yn gwneud defnydd helaeth o'r Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol ym Mhrifysgol Bangor, gan alluogi tiwtoriaid i ddangos sut y dylid defnyddio arteffactau ac AC i ddadansoddi a gwerthuso'n feirniadol ystod helaeth o adnoddau dysgu yng nghyd-destun Cymru. Bydd y modiwl yn ymestyn sgiliau deallusol a phersonol, gan alluogi AC i fwynhau'r proffesiwn llawn boddhad ac ysgogol a geir trwy ddysgu Addysg Grefyddol yn llwyddiannus.
Fees and funding
Cymhellion Hyfforddi i Athrawon
Gallai graddedigion sydd â graddau penodol fod yn gymwys am gymhellion o hyd at £20,000 os ydynt am i hyfforddi i fod yn athro yng Nghymru.
Y pynciau blaenoriaeth yw:
- Ffiseg
- Cemeg
- Mathemateg
- Cymraeg
- Cyfrifiadureg
- Ieithoedd Tramor Modern
Gweler hefyd:
Qualification, course duration and attendance options
- PGCE(QTS)
- full time12 months
- Campus-based learningis available for this qualification
Course contact details
- Name
- Postgraduate Admissions
- postgraduate@bangor.ac.uk
- Phone
- 01248 383717