Taught course

Creative Writing (Welsh Medium) MA

Institution
Bangor University · Ysgol y Gymraeg - School of Welsh
Qualifications
MA

Entry requirements

Croesewir ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr o bob oed. Ystyrir pob cais yn unigol, ond rhoddir pwys ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol a/neu brofiad blaenorol perthnasol.

Months of entry

September

Course content

This is a Welsh Medium course, we also offer Creative Writing through the medium of English. Please visit Creative Writing (English Medium) for the course description)

Mae’r cwrs wedi ei rannu’n Rhan 1 a Rhan 2 a rhaid pasio’r rhan gyntaf yn llwyddiannus er mwyn cael mynediad i’r ail ran. Mae Rhan 1 yn cynnwys 3 modiwl 40 credyd yr un sef ‘Themâu Creadigol’, ‘Technegau Cyfansoddi a ‘Mathau Llenyddol’. Mae Rhan 2 y cwrs yn cynnwys 1 modiwl 60 credyd sef portffolio o waith creadigol hyd at 20,000 o eiriau, a phennir canlyniad y cwrs cyfan ar farc cyfartalog dwy ran y cynllun. Mater i’w drafod rhwng y myfyriwr a’i gyfarwyddwr academaidd fydd union natur y portffolio, ac mae amryw fodelau’n bosib, e.e. nofel fer, casgliad o storïau byrion neu gerddi, cyfuniad o farddoniaeth a rhyddiaith. Rhoddir ystyriaeth ofalus i ofynion unigol pob myfyriwr wrth bennu union gynnwys y modiwlau, a chynllunnir rhan gyntaf y rhaglen gyda golwg ar y posibiliadau creadigol a all fwydo’r ail ran.

Y prif gyswllt dysgu yw hwnnw gyda’r cyfarwyddwr academaidd a threfnir i’w gyfarfod yn rheolaidd drwy gydol cofrestriad y myfyriwr. At hynny, mae cymuned ôl-radd fywiog o fewn Ysgol y Gymraeg a threfnir cyfres o seminarau wythnosol yn ystod Semester 1 a 2. Yn y seminarau hyn cynigir arweiniad i faterion technegol sy’n berthnasol i’r holl fyfyrwyr ôl-radd, bydd cyfle i glywed cyd-fyfyrwyr yn cyflwyno papurau am eu projectau unigol, a hefyd i ddysgu am ymchwil gyfredol gan staff Ysgol y Gymraeg ac ysgolion academaidd eraill. At hynny, cynhelir seminarau ysgrifennu creadigol rheolaidd a bydd cyfle i glywed awduron gwadd fel Wiliam Owen Roberts, Lloyd Jones, Angharad Tomos ac Ifor ap Glyn yn trafod eu gwaith. Yn ogystal, os yw myfyriwr ôl-radd am ddilyn yn anffurfiol unrhyw un o fodiwlau israddedig yr ysgol er mwyn cyfoethogi ei brofiad dysgu, bydd cyfle iddo/i wneud hynny.

Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol

Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ysgrifennu Creadigol (Cyfrwng Cymraeg) MA.

Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.

Fees and funding

Gweler ein tudalennau Ffioedd a Chyllid am ragor o wybodaeth. Gallwch hefyd ymweld â'n tudalen Hysgoloriaethau a Bwrsariaethau i ddysgu mwy am y cyllid sydd ar gael.

Please see our Fees & Finances pages for more information. You can also visit our Scholarships, Studentships & Bursaries to learn more about funding available.

Qualification, course duration and attendance options

  • MA
    full time
    12 months
    • Campus-based learningis available for this qualification
    part time
    24 months
    • Campus-based learningis available for this qualification

Course contact details

Name
Postgraduate Admissions
Email
postgraduate@bangor.ac.uk
Phone
01248 383717