Taught course

TAR Cynradd Gyda SAC ~ PGCE Primary with QTS

Institution
Swansea University · Faculty of Humanities and Social Sciences
Qualifications
QTS

Entry requirements

Mae'n ofynnol bod ymgeiswyr ar gyfer y TGAU Cynradd wedi cyflawni'r canlynol cyn eu derbyn i'r rhaglen:

  • Gradd anrhydedd gydag o leiaf 2:2 mewn pwnc perthnasol, neu bwnc cysylltiedig gydag o leiaf 50% o gynnwys pwnc perthnasol
  • Gradd C TGAU yn Saesneg/Gymraeg (bydd rhaid i fyfyrwyr sy'n cyflwyno cais ar gyfer y rhaglen Gymraeg feddu ar TGAU yn y Gymraeg)
  • Gradd C TGAU mewn Mathemateg
  • Gradd C TGAU mewn Gwyddoniaeth

Mae’r Gradd C yn Saesneg/ Gymraeg a Mathemateg ar lefel TGAU yn ofyniad a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd pob cyfweliad yn cael ei gynnal yn rhithiol (gan ddefnyddio Microsoft Teams) gydag arbenigwr cynradd TAR trwy gyfrwng Saesneg neu Gymraeg fel y dymunir. Bydd y fformat yn cynnwys cyfweliad byr a thrafodaeth broffesiynol.

Bydd yr holl fyfyrwyr TAR yn cwblhau archwiliad Cymhwysedd Digidol wrth gofrestru a bydd hyfforddiant cymhwysedd digidol yn rhan o'u rhaglen astudio TAR.

Rhaid i'r holl ymgeiswyr fodloni gofynion Safonau Iechyd Addysg (Cymru) gan gadarnhau eu gallu corfforol ac iechyd er mwyn addysgu (Gweler yr adran Costau Ychwanegol).

Bydd yn rhaid i'r holl ymgeiswyr gael gwiriad manwl gan y GDG. Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi cael eu heithrio rhag addysgu neu weithio gyda phlant nac wedi'u cofrestru gyda'r GDG fel person sy'n anaddas i weithio gyda phlant neu bobl ifanc (Gweler yr adran Costau Ychwanegol).

Months of entry

September

Course content

Mae'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) amser llawn am flwyddyn gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) a gynigir gan Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (SUSP) yn cysylltu ymchwil a pholisi ag ymarfer cynradd.

Bydd ein rhaglen TAR Cynradd yn caniatáu ichi ddatblygu sgiliau addysgu ar draws y cyfnod oedran cynradd a datblygu eich dealltwriaeth o'r cwricwlwm newydd yng Nghymru. Byddwch yn gweithio gyda thiwtoriaid a mentoriaid Prifysgol profiadol, brwdfrydig yn ein hysgolion Partneriaeth ledled De Cymru i ddatblygu a myfyrio ar eich ymarfer addysgu eich hun.

Mae'r rhaglen yn unigryw oherwydd, ar ôl profi lleoliadau addysgu ar draws y cyfnod oedran cynradd, gallwch ddewis arbenigo mewn cyd-destunau Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 neu Bob Oed. Bydd hyn nid yn unig yn gwella'ch gwybodaeth am addysgu a'r cwricwlwm yn eich cyfnod arbenigol, ond hefyd yn dwysau eich dealltwriaeth o sut mae plant yn dysgu ac yn datblygu.

Mae ymchwil yn sail i bob agwedd ar raglen SUSP, sy'n eich galluogi i elwa o enw da cenedlaethol a rhyngwladol y Brifysgol.

Gydag ymrwymiad cryf y Bartneriaeth i les, byddwch yn profi cefnogaeth bersonol, broffesiynol ac academaidd o ansawdd uchel trwy gydol y flwyddyn.

Fees and funding

Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)

Qualification, course duration and attendance options

  • QTS
    full time
    12 months
    • Campus-based learningis available for this qualification

Course contact details

Name
Vanessa Thomas
Email
pgce-enquiries@abertawe.ac.uk